Mae deiseb ar wefan y Cynulliad yn galw am godi pont ar ffurf cerflun o’r cawr Bendigeidfan fel trydedd croesfan dros afon Menai.

Hyd yma, mae’r ddeiseb, a gafodd ei chychwyn gan Benji Poutlon o Penrhosgarnedd, Bangor, wedi denu bron i 200 o enwau.

Mae’r ddeiseb yn gofyn yn benodol am i’r cynllun, a gaiff ei ddisgrifio mewn fideo, gael ei ystyried yn ffurfiol ynghyd â’r cynigion eraill am drydedd pont a gafodd eu cyflwyno mewn ymgynghoriad yn gynharach eleni.

Yn ôl y ddeiseb, byddai cynllun ‘Pont Bendigeidfran’ yn “ychwanegiad mwy priodol i’r ddwy bont fyd-enwog y ceir eisoes yn y lleoliad hwn”.

Ar y sail honno, mae’r deisebwyr yn “galw am asesu’r cynnig amgen hwn yn llawn ochr yn ochr â’r opsiynau gwreiddiol a gyflwynwyd yn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch trydedd bont dros y Fenai.”

Daw stori Bendigeidfran o ail gainc y Mabinogi, Branwen Ferch Llyr, fel y cawr a estynnodd drosodd o Gymru i Iwerddon i alluogi Branwen i  ddod yn ôl adref i Gymru, ac o’r chwedl hon y daw’r ymadrodd ‘A fo ben bid bont’.