Mae bardd ac ieithydd yn dweud bod yna beryg i’r iaith Gymraeg farw fel iaith bob dydd os nad yw disgyblion yn cael “mwy o gyfleoedd” i’w siarad y tu hwnt i ddosbarth ysgol.

Mae Siôn Aled Owen newydd dderbyn ei ail PhD ar ôl astudio’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith disgyblion ysgol, ac yn ystod yr un haf fe gyhoeddodd gyfrol newydd o gerddi o’r enw Meirioli.

Dywed fod llawer o’i gerddi wedi deillio o’r profiadau a gafodd wrth ymchwilio, gyda’r gwaith hwnnw wedi ei arwain i ysgolion a lleoliadau ledled Cymru a’r byd.

“Mae gynnon ni sialens fawr”

Un pryder sydd gan yr ieithydd ynghylch y Gymraeg yw y byddai’n troi’n iaith byd addysg ac iaith y pen yn unig, gan greu “dwyieithrwydd oddefol” – yn union fel sefyllfa’r iaith Wyddeleg yn Iwerddon.

Os am sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai Siôn Aled Owen, mae’n rhaid sicrhau eu bod nhw’n siarad yr iaith o ddydd i ddydd hefyd.

Mae cynnig cyfleoedd i ddisgyblion siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol yn allweddol, meddai.  Ond mae hyn yn broblem yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Roedd yr agwedd tuag at yr iaith yn hynod bositif [yn yr ysgolion], ond y rhai oedd ddim yn defnyddio’r Gymraeg rhyw lawer y tu allan i’r ysgol, cyfeirio at ddiffyg cyfleoedd oeddan nhw,” meddai wrth golwg360.

“Roedd hynny nid yn unig ble basach chi’n disgwyl – fel yn yr hen Went – ond hyd yn oed yn yr ardaloedd mwy Cymraeg, roedd yna blant yn dweud pethau fel, ‘mae arweinydd y clwb ieuenctid ddim yn defnyddio’r Gymraeg…’

“Mae gynnon ni sialens fawr yna. Mae gen i ofn bod yn rhaid i ni wynebu’r ffaith bod hyn yn mynd i gostio.”

‘Dagrau Rhew’ a ‘Meirioli’

Mae bron i ddeugain mlynedd ers i Siôn Aled gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Dagrau Rhew, ac mae’r teitl Meirioli ar gyfer yr un ddiweddaraf yn adlewyrchu sut mae dealltwriaeth y bardd o farddoniaeth ac iaith “wedi newid,” meddai.

“Yn fy rhagair i Dagrau’r Rhew, dw i’n dweud fy mod i’n gweld barddoniaeth fel pe tai’n rhewi profiad a theimlad ac argraffiadau, ac yn aml yn rhewi emosiwn.

“Ond erbyn hyn, dw i’n gweld barddoniaeth fel rhywbeth llawer mwy hyblyg a hylifol ac esblygiadol; hynny yw, nad ydi hi’n bosib rhewi profiad neu argraffiad am byth mewn geiriau.”

Mae modd clywed Siôn Aled Owen yn darllen a chynnig esboniad ar un o gerddi’r gyfrol isod…