Mae teulu o ffermwyr wedi mynd ati i agor y siop fferm gyntaf yn y Rhondda.

Mae Grug Jones, ynghyd â’i chwaer, Caryl, a’i brawd, Arwel, yn rhedeg fferm Fforch yn y Rhondda.

Mae’r teulu eisoes yn rhedeg micro-fragdy o’r enw ‘Cwrw Cwm Rhondda’ ers tair blynedd, a bellach maen nhw wedi penderfynu agor siop yn Nhreorci a fydd yn gwerthu cynnyrch lleol.

Yn ôl Grug Jones, mae’r fenter wedi cael croeso mawr, gyda phobol Cwm Rhondda “wrth eu bodd” yn prynu cynnyrch Cymreig sy’n dod o fewn 30 milltir i’r siop.

“Cynnyrch Cymreig”

Mae Siop Fferm Cwm Rhondda, sydd wedi’i lleoli ar Ystâd Ddiwydiannol Abergorci, yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch, gan gynnwys wyau, llaeth, siytni, bara, llysiau a chig.

“Rydym ni’n falch o gynnig cynnyrch Cymreig a dathlu treftadaeth bwyd a diod o Gymru,” meddai Grug Jones.

“Mae popeth yn dod o ffynonellau mor lleol â phosibl. Er enghraifft, mae’r bara’n cael ei bobi ar y safle ac mae’r holl gig a’r llysiau yn dod o ffynonellau o fewn 30 milltir.”

Mae caffi sy’n gweini’r cynnyrch yn rhan o’r siop hefyd, ac mae honno’n cael ei rhedeg gan aelod arall o’r teulu, sef Aneira Jones.

Cefnogaeth

Mae’r fenter wedi derbyn cefnogaeth gan y gwasanaeth Cywain, un o brosiectau Menter a Busnes sy’n rhoi cymorth i gwmnïau bwyd a diod.

“Y peth gorau am ein gwaith yw gweld busnesau, a’r bobol sy’n gyfrifol am y busnesau hynny, yn datblygu eu syniadau o’r egin i’r lansiad,” meddai Nia Môn, rheolwr datblygu Cywain.

“Mae Grug a gweddill y teulu wedi cael llwyddiant gyda micro-fragdy Cwrw Cwm Rhondda, ac rydw i’n falch iawn fod Siop Fferm Cwm Rhondda yn gallu cynnig cynnyrch lleol o safon a swyddi i bobl leol yn un o gymoedd enwocaf Cymru.”