Daeth tua 400 i gyfarfod cyhoeddus yn Aberaeron neithiwr i ddatgan eu cefnogaeth i ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Cheredigion yn 2020.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal yn Ysgol Gyfun Aberaeron, a dyma oedd y cyfle cyntaf i drigolion glywed mwy am y brifwyl a fydd yn cael ei chynnal yn Nhregaron rhwng Awst 1 a 8 2020.

Dyw’r Eisteddfod Genedlaethol heb ymweld â Cheredigion ers 1992, pan gafodd ei chynnal ar faes Gelli Angharad ger Aberystwyth.

Yn ôl Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, mae yna “draddodiad eisteddfodol cryf” yng Ngheredigion, ac mae’r cyfarfod neithiwr wedi dangos iddi “fod pawb yn edrych ymlaen at ddwy flynedd o waith paratoi”.

Paratoi

Yn ystod y cyfarfod neithiwr, agorwyd yr enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith.

Daeth i’r amlwg bod Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, wedi derbyn enwebiad ar gyfer swydd cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Bydd modd enwebu unigolion tan Hydref 5, ac fe fydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnal ar Hydref 13.

Nod y cyfarfod hwnnw fydd cychwyn ar y gwaith o lunio rhestr testunau a dewis swyddogion ar gyfer y gwahanol bwyllgorau.

“Cyffrous”

“Dydw i erioed wedi gweld cynifer yn dod i gyfarfod cyhoeddus i gefnogi’r Eisteddfod, felly diolch o galon i bawb am fod mor barod i ddod i gefnogi, a hynny mewn tywydd mor wael,” meddai Elen Elis.

“Mae bob amser yn gyffrous cychwyn ar brosiect yr Eisteddfod mewn ardal newydd, ac rwyf mor falch bod cynifer o’r rheini a ddaeth neithiwr wedi dangos diddordeb i fod yn rhan o’r tîm yng Ngheredigion.”