Mae Arweinydd newydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad eisiau rhoi’r cyfle i’r bobol ddewis aelodau’r Byrddau Iechyd.

Eleni mae pedwar Bwrdd Iechyd wedi gorwario yng Nghymru, a hynny er gwaethaf mwy o fuddsoddiad ariannol nac erioed.

Ac mae Bwrdd Iechyd y Gogledd, sy’n gyfrifol am wario £1.2 biliwn y flwyddyn, wedi bod mewn “mesurau arbennig” ers bron i dair blynedd.

Ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy’n dewis Cadeiryddion, Is-Gadeiryddion ac aelodau’r Byrddau Iechyd.

Ar ben hynny, mae cynghorau sir yn cael enwebu dau gynghorydd i fod ar Fwrdd Iechyd.

Ond mae Arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg fod y drefn bresennol yn un ddiffygiol.

“Dw i eisiau gweld aelodau ein Byrddau Iechyd ni yn cael eu hethol yn uniongyrchol,” meddai Paul Davies.

“Oherwydd dw i’n credu y byddai hynny yn rhoi llawer gwell atebolrwydd.

“Oherwydd ryden ni wedi gweld penderfyniadau yn cael eu gwneud yn erbyn dymuniadau’r bobol, yn enwedig yn fy ardal i, tros y blynyddoedd diwethaf.

“Dw i eisiau sicrhau bod yna well atebolrwydd yn ein Gwasanaethau Cyhoeddus.”

Y drws ar agor i glymblaid efo Plaid Cymru

Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r wrthblaid yn y Cynulliad, ac mae ganddyn nhw 11 o aelodau yno.

Ac mae’r Arweinydd newydd yn canolbwyntio ar ennill mwy o seddi yn etholiadau’r Cynulliad yn 2021.

O ran ffurfio clymblaid gyda Phlaid Cymru i lywodraethu, fe fydd yn rhaid “gweld beth fydd y rhifau ar ôl yr etholiad” meddai Paul Davies.

“Dw i wedi ei gwneud hi yn eithaf clir bod fy nrws i ar agor [i’r posibilrwydd o glymbleidio].

“A dw i hefyd wedi ei gwneud hi’n glir, os bydd yna bosibilrwydd o glymblaid ar y bwrdd, y bydda i yn sicrhau bod ein haelodau ni hefyd yn cael dweud eu dweud ar fater pwysig fel yna.”

 

Cyfweliad llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg