Tros y penwythnos fe fydd cyn-bêl-droediwr rhyngwladol yn dychwelyd i’w dref enedigol, i ddadorchuddio plac ar y tŷ cyngor lle y cafodd ei fagu.

Bellach yn 76 oed ac yn byw yn Bolton, roedd Wyn Davies o Gaernarfon yn un o sêr Cymru yn y 1960au a’r 1970au.

Fe beniodd gôl arbennig i rwyd y Saeson yn Wembley yn 1966, un o chwe gôl mewn 34 o gemau tros ei wlad.

Rhwng 1962-66 fe sgoriodd 66 o goliau mewn 155 o gemau i Bolton Wanderers, a chael ei adnabod fel ‘Wyn the Leap’ oherwydd ei allu i neidio fel eog i’r awyr a phenio’r bêl i’r rhwyd.

Ac mae yn parhau yn arwr yng ngogledd ddwyrain Lloegr oherwydd ei gyfnod yn flaenwr i Newcastle United , pan sgoriodd 40 o goliau mewn 181 o gemau rhwng 1966-1971.

Oherwydd ei berfformiadau llachar, fe gafodd Wyn Davies ei brynu gan Manchester City yn 1971.

Fe aeth yn ei flaen i chwarae i Manchester United gyda Bobby Charlton a George Best.

A chyn ymuno gyda Wrecsam yn 1960 bu’n chwarae i glybiau lleol Deiniolen, Llanberis a Chaernarfon Town.

“Record transfer fee”

Yn y 1970au roedd y newyddiadurwr Richard Morris Jones yn holi Wyn Davies ar ôl gemau rhyngwladol Cymru, ar gyfer Radio Cymru.

Roedd yn “fraint” i’r gohebydd ei holi gan fod Richard Morris Jones yn cefnogi Newcastle United ers ei blentyndod.

“Fe gafodd Wyn flynyddoedd ffantastig yn chwarae i Newcastle,” meddai Richard Morris Jones, “a phan ddaru o arwyddo i Newcastle, mi oedd o am record transfer fee [ar y pryd], o £80,000.

“Hwnnw oedd y transfer fee uchaf oedd wedi bod. Ac mi gafodd o flynyddoedd gwych iawn efo Newcastle.”

Am 12.15 yfory bydd Wyn Davies yn dadorchuddio plac yn 17 Maes Barcer yng nghwmni Arwel Hogiau’r Wyddfa a Dafydd Wigley.

Yna bydd y seremoni yn symud i gae’r Oval a Wyn Davies yn cael ei gyflwyno i’r dorf cyn y gêm rhwng Caernarfon Town a Llanelli.