Mae Helen Mary Jones wedi dychwelyd i’r Cynulliad i gynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru oherwydd teimlad o “ddyletswydd”.

Roedd y ffigwr yn bennaeth ar Academi Morgan Prifysgol Abertawe, ond yn sgil ymadawiad Simon Thomas mae hi bellach yn Aelod Cynulliad unwaith eto.

“Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd. Roeddwn i wir yn mwynhau’r job ym Mhrifysgol Abertawe,” meddai Helen Mary Jones wrth golwg360.

“Yn y diwedd mi ddes i i’r casgliad bod gyda fi dyletswydd. Fi benderfynodd peidio â thynnu fy enw off y rhestr. A dyw’r blynyddoedd diwethaf yma dim wedi bod y rhai gorau yn y byd i’r Cynulliad.

“Felly, ar ôl lot o feddwl mi wnes i’r penderfyniad, a dyna ni.”

Mae’n ategu bod ganddi ddewis rhwng “bod ar y tu fas gyda Phrifysgol Abertawe yn trio dylanwadu”, neu “fod yng nghanol y sefydliad gyda mwy o gyfle i ddylanwadu”.

O ran y meysydd yr hoffai ddylanwadu arnyn nhw, mae’n nodi “materion cydraddoldeb a gwaith plant a phobol ifanc” yn ogystal â hawliau pobol anabl yng Nghymru.

Llanelli

Helen Mary Jones yw’r unig ffigwr sydd erioed wedi sefyll tros Blaid Cymru yn etholaeth Cynulliad Llanelli, a hi yw’r unig un sydd wedi ennill y sedd i’r blsid honno.

Mae’n dweud bod ganddi “lot o bethau i’w ystyried” wrth edrych at etholiad Cynulliad 2020, ond dyw hi’n bendant ddim yn diystyru’r posibilrwydd o sefyll yn Llanelli eto.

Mae sedd Llanelli yn sedd ymylol ac yn un darged i Blaid Cymru. Yr Aelod Cynulliad Llafur, Lee Waters, sy’n cynrychioli’r etholaeth ar hyn o bryd – ond mae tipyn o helynt wedi bod yno yn ddiweddar yn sgil gwahardd cangen gyfan.

“Dw i wedi bod allan o’r maes gwleidyddol yn gyfan gwbwl, felly dw i ddim yn gwybod yr ins and outs ynglŷn â beth sydd wedi digwydd,” meddai.  

“Mae gyda fi lot o barch tuag at bobol ar ddwy ochr y ddadl. Ac fel mae fy rôl i fel Aelod Rhanbarthol yn datblygu, dw i’n siŵr alla’ i helpu.

“Mae lot o waith wedi ei wneud yn barod i ailadeiladu’r tîm yn fan’na. A dw i’n edrych ymlaen at helpu, a chefnogi, gyda’r gwaith yna.”

Arweinyddiaeth

Mater sy’n hawlio’r penawdau ar hyn o bryd yw etholiad arweinyddol Plaid Cymru, gyda’r Aelodau Cynulliad, Leanne Wood, Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn ymgiprys am y job.

Mae Helen Mary Jones ymhlith lleiafrif sydd heb ddatgan ei chefnogaeth i ymgeisydd penodol, ac mae’n dweud bod hynny’n “rhannol gan [ei bod] mor newydd i’r peth”.

“Beth hoffwn i weld ar ôl yr etholiad – gyda phwy bynnag sydd yn arweinydd – yw ein bod yn gallu tynnu’r gorau o’r syniadau yna at ei gilydd a defnyddio sgiliau pawb,” meddai wedyn.