Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn dweud eu bod wedi cael “buddugoliaeth hanesyddol”, ar ôl i gynlluniau ar gyfer agor cloddfa brig yn Sir Gaerffili gael eu gwrthod.

Yn 2015, roedd Cyngor Sir Gaerffili wedi gwrthod rhoi caniatâd i’r cwmni cloddio, Miller Argent, i agor cloddfa glo brig yn Nant Llesg yng Nghwm Rhymni – prosiect a fyddai wedi creu 240 o swyddi a buddsoddiad o £13m y flwyddyn.

Ond er i’r cwmni apelio yn erbyn y penderfyniad, mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi gwrthod yr apêl gan nad oedd cwestiynau a oedd ganddyn nhw wedi’u hateb mewn pryd.

‘Diwedd ar y Brenin Glo’

“Mae hwn yn fuddugoliaeth hanesyddol i bawb sydd wedi gweithio’n ddiflino i achub Nant Llesg rhag cloddfa glo brig, a phenllanw ar flynyddoedd o ymgyrchu gan y gymuned leol,” meddai Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear.

“Allwn ni ddim mynd ymlaen i gloddio rhagor a rhagor o lo. Mae’r goblygiadau lleol yn ddinistriol a’r goblygiadau rhyngwladol yn ofnus.

“Mae’n rhaid i ynni carbon gael ei adael yn y ddaear os ydym ni am osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd.

“Mae goruchafiaeth yr hen Frenin Glo wedi dod i ben yng Nghymru – ac mae hyn yn dynodi diwedd ar y cloddfeydd glo brig.”