Mae caffi ar fin yr A470 yng Ngheredigion newydd agor pwynt gwefru ceir trydan, gan obeithio sbarduno llefydd eraill yng ngorllewin Cymru i wneud yr un peth.

Bellach mae caffi ymunedol Cletwr yn Tre’r Ddôl yn gartref i’r ‘gwefrwr cyflym’ cyntaf rhwng yr M4 a’r A55.

Fe gafodd ei ddefnyddio am y tro cyntaf nos Fawrth yr wythnos hon (Medi 18), ac yn ôl Rheolwr Busnes y caffi, Karen Evans, mae’r pwynt yn medru gwefru car trydanol yn llawn mewn rhwng 20-45 munud.

Mae’r rheolwr yn dweud bod “gap mawr wedi bod yn y farchnad” ac mae’n gobeithio y bydd rhagor yn cael eu gosod yng ngorllewin Cymru er lles yr ardal gyfan.

“Os ydym ni am ddenu rhagor o dwristiaid – mae ceir hybrid yn enwedig dod yn fwy poblogaidd – [rhaid eu gosod yma],” meddai wrth golwg360.

“Does dim darpariaeth yma ar hyn o bryd. Mae angen mwy arnom, yn bendant. Gobeithio rydym wedi gosod trend, a gobeithio bydd mwy yn dilyn ein hesiampl. Nid gwefryr araf yn unig, ond gwefrwyr cyflym.”

Gwefreiddiol

Er mai ar dir Cletwr mae’r pwynt gwefru, cwmni Charge Master sy’n gyfrifol amdano, ac mae taliadau cwsmeriaid yn mynd i’r cwmni hwnnw.

Mi dalodd Cletwr am gostau adeiladau’r pwynt, ac mae’r gwefrwr yn defnyddio eu wifi, ond nid yw’r trydan yn dod o gyflenwad y caffi.

Mae Karen Evans yn credu bod pobol leol yn ogystal ag ymwelwyr yn debygol o’i ddefnyddio, ac mae’n dweud bod ffermwyr yr ardal yn dechrau manteisio ar geir hybrid – tanwydd ffosil a thrydan.