Mae 29.5% o fyfyrwyr Cymru wedi sicrhau eu lle yn y brifysgol trwy’r broses glirio, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae UCAS, y corff sy’n delio â cheisiadau prifysgol, yn cadarnhau hefyd bod nifer disgyblion Lefel A sy’n manteisio ar y broses glirio – lle maen nhw’n gofyn i golegau be’ maen nhw’n fodlon ei gynnig iddyn nhw – ar ei lefel uchaf eleni.

Maen nhw’n dweud bod 60,100 o ddarpar fyfyrwyr gwledydd Prydain wedi bod trwy’r broses, sef cynnydd o 150 ar y llynedd.

O’r ffigwr hwn, medden nhw, bu’n rhaid i UCAS ddelio â 45,690 ohonyn nhw, tra bo 14,410 wedi cysylltu’n uniongyrchol â phrifysgolion.

Llai’n dewis astudio yng Nghymru

Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr tramor sy’n ceisio am le yn eu prifysgolion.

Fe fu gostyngiad o 7% yn nifer y myfyrwyr o du allan i’r Undeb Ewropeaidd, tra bo 10% yn llai yn dod o wledydd y tu mewn i’r Undeb.

Mae hyn yn dra gwahanol i’r gyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, sydd wedi gweld cynnydd o 4% yn nifer y myfyrwyr o du allan yr Undeb Ewropeaidd, a 2% yn nifer y rhai o Ewrop.

Cafwyd gostyngiad o 7% yn nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio yng Nghymru hefyd.