Mae papur bro yn ne Powys yn gobeithio ffeindio “brwdfrydedd a gwaed newydd yn y gymuned” wrth iddyn nhw gynnal cyfarfod ym mis Tachwedd.

Cafodd Y Fan a’r Lle ei sefydlu yn 1996, ac ers hynny mae wedi darparu newyddion lleol i bobol Aberhonddu a’r cylch yn ddi-ffael.

Ond bellach mae’r papur yn wynebu trafferthion ariannol, ac mae cyfarfod wedi’i alw yn Aberhonddu ar Dachwedd 8 i drafod ei ddyfodol.

“Rydyn ni’n rhedeg ar golled ar hyn o bryd, felly mae’n rhaid i ni ffeindio ffordd fwy cynaliadwy o gynhyrchu’r papur bro,” meddai Siân Reeves, un o gyd-olygyddion y papur bro.

“Mae’n rhaid i ni dorri’r got yn ôl y brethyn, ac mae’n rhaid i ni feddwl am sut rydan ni’n mynd i barhau efo’r papur bro ‘Y Fan a’r Lle’ mewn ffordd lle dydyn ni ddim ar ein colled.

“Rydyn ni’n galw cyfarfod cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth am beth sydd wedi digwydd, i ddod â phawb at ei gilydd, a gobeithio, i symud y papur yn ei flaen.”

Y broblem

Ar hyn o bryd, mae’r papur bro yn cael ei gyhoeddi fel atodiad o’r Brecon & Radnor Express, ac felly’n cael eu cyhoeddi a’u dosbarthu ganddyn nhw.

Ond, er y gweithiodd y drefn yma am gyfnod mae trafferthion Y Fan a’r Lle yn deillio’n rhannol o’u perthynas â’r papur mwy, meddai Siân Reeves.

Mae’n dweud bod newidiadau strwythurol o fewn yr Express wedi achosi cymhlethdodau, a bellach mae’r ffi sy’n rhaid i’r papur bro ei dalu iddyn nhw wedi cynyddu. Ac mae’n ategu bod hyn yn “yn golygu bod ni methu cario mlaen gyda nhw”.

Y papur

Mae’r papur yn dod allan bedwar gwaith y flwyddyn a’n cael ei ariannu trwy hysbysebwyr lleol, grant oddi wrth Llywodraeth Cymru, a gweithgareddau codi arian.