Mae ymchwiliad newydd ar y gweill i honiadau bod dirprwy arweinydd Llafur Cymru wedi ymosod ar gydweithwraig.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i gwyn gan Jenny Lee Clarke fod Carolyn Harris, Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Abertawe wedi tynnu gwallt o’i phen.

Mae Jenny Lee Clarke wedi cwyno’n swyddogol am y ffordd y cafodd yr ymchwiliad gwreiddiol ei gynnal ddwy flynedd yn ôl, wrth i’r heddlu benderfynu peidio â dwyn achos yn erbyn Carolyn Harris.

Mae Jenny Lee Clarke hefyd yn honni bod yr heddlu wedi rhoi’r gorau i’r ymchwiliad oherwydd statws Carolyn Harris fel gwleidydd blaenllaw.

“Oni bai am ei safle, byddwn i wedi cael cyfiawnder erbyn hyn,” meddai. “Dw i wedi cael fy nhrin yn wahanol am fy mod yn berson cyffredin ac mae hithau’n Aelod Seneddol.”

Ymateb Llafur i’r honiadau

Yn ôl Jenny Lee Clarke, dyw hi ddim wedi derbyn unrhyw gefnogaeth gan y Blaid Lafur, ac mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol Jennie Formby wedi anwybyddu ei negeseuon ebost.

Cafwyd hi’n ddieuog ym mis Gorffennaf o ffugio sieciau er mwyn rhoi codiad cyflog iddi hi ei hun.

Dywedodd wrth y llys bryd hynny fod Carolyn Harris wedi ei chamdrin hi ar ôl rhoi gwybod i gydweithwyr yn swyddfa’r etholaeth ei bod hi’n hoyw. Fe wnaeth hi’r honiadau am dynnu gwallt o’i phen yn ystod yr achos, a’i bod hi hefyd wedi sarhau ei hesgidiau ar sail ei rhywioldeb.

Fe fu’r ddwy yn gweithio i’r cyn-Aelod Seneddol Sian James, rhagflaenydd Carolyn Harris yn Aelod Seneddol yn Nwyrain Abertawe.

Roedd Carolyn Harris wedi gwadu honiadau Jenny Lee Clarke yn ystod yr achos llys, ac wedi wfftio’r sylwadau fel “tynnu coes mewn swyddfa”.

Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill, ond dydy Carolyn Harris ddim wedi gwneud sylw.