“Gallai’r hollt gael ei gau” dan yr amodau cywir, meddai cyn-aelod o Gangen Plaid Cymru Llanelli am yr anghydfod rhyngddyn nhw â’r blaid yn ganolog.

Cafodd y gangen gyfan eu gwahardd ym mis Chwefror, wrth i ffrae ddod i’w hanterth dros benodiad Mari Arthur yn ymgeisydd tros Lanelli yn Etholiad cyffredinol 2017.

Roedd y gangen wedi ffafrio Sean Rees, cynghorydd tref leol, ac wedi cyhuddo Mari Arthur o gloi ei chyd-Bleidwyr allan o swyddfa’r Blaid yn Llanelli.

 chystadleuaeth arweinyddiaeth Plaid Cymru bellach ar droed, mae Mary Roll – cyn-aelod a chyd-sefydlydd Fforwm Llanelli – yn awgrymu y gallai’r anghydfod blwydd a hanner oed ddod i ben.

Y gystadleuaeth

“Bydd y gystadleuaeth arweinyddol yn gwneud gwahaniaeth enfawr,” meddai wrth golwg360. “Oherwydd mae’n hollol amlwg bod Mari Arthur yn gyfaill agos iawn i’r [arweinydd] Leanne Wood.

“Yn amlwg, os bydd Leanne yn aros, bydd yna ddim newid fan hyn. Mae hynny’n sicr. Ond os bydd un o’r ddau arall yn ennill, bydd yn ddiddorol gweld â phwy mae Helen Mary Jones yn ochri.”

Yr Aelodau Cynulliad, Rhun ap Iorwerth ac Adam Price, sydd yn cystadlu â Leanne Wood am arweinyddiaeth y blaid, ac mae Helen Mary Jones yn gyn Aelod Cynulliad dros Lanelli. Bellach mae Helen Mary Jones wedi dychwelyd i’r Cynulliad i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, tra bod Llanelli’n parhau’n goch dan Lee Waters.

Mae Mary Roll yn nodi bod “sawl un” o gyn-aelodau’r gangen wedi gweithio ar ymgyrchoedd Helen Mary Jones – gan gynnwys Sean Rees – a’n awgrymu bod yna deimlad cynnes ati hi o hyd.

Tŷ Bres

Tŷ Bres yw enw swyddfa Cangen Plaid Cymru Llanelli, a’r adeilad hwnnw yw un o esgyrn y gynnen rhwng y ddwy ochr. Ac mae mater yr adeilad, mae’n debyg, yn parhau’n fater dadleuol.

Mae sïon yn dew, meddai Mary Roll, bod Mari Arthur yn ceisio gwerthu’r adeilad er mwyn “ariannu ei hymgyrch San Steffan yn y dyfodol”.

“Petasai hynny’n digwydd, mi fyddai’n sgandal llwyr,” meddai. “Oherwydd gwnaeth [aelodau’r blaid] fuddsoddi arian eu hunain 35 blynedd yn ôl er mwyn cael pencadlys ar gyfer y gangen.”

Y fforwm Ym mis Gorffennaf aeth cyn-aelodau’r gangen ati i sefydlu ‘Fforwm Llanelli’ gyda’r nod o gynnal dadleuon cyhoeddus ar faterion gwleidyddol. Mae Mary Roll eisoes wedi mynnu wrth golwg360 bod y grŵp yn “niwtral”, ac mae’n dweud ei fod yn “gweithio’n dda” ar hyn o bryd am ei fod yn anwleidyddol.

Dim mudiad “yn erbyn Plaid Cymru” yw’r fforwm, ond mae cynghorwyr o’r blaid honno wedi gwrthod mynychu, meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru a Mari Arthur am ymateb.