Mae Dyfodol i’r Iaith a Chymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r cyhoeddiad fod £51m yn cael ei neilltuo o’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Gymraeg a’r Grant Cyfalaf ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i ehangu addysg Gymraeg.

Ond maen nhw’n rhybuddio ar yr un pryd fod angen ehangu’r gronfa.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i gefnogi oddeutu 41 o brosiectau mewn 16 awdurdod lleol, gan greu 2,818 o lefydd ysgol a gofal plant ychwanegol i ddysgwyr.

Daeth y cyhoeddiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wrth iddi ymweld ag Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl, lle bydd ysgol gynradd newydd a meithrinfa yn cael eu hagor yn dilyn grant.

Fe fydd ysgolion cynradd Cymraeg newydd ym Merthyr Tudful a Thorfaen hefyd yn elwa o’r gronfa, yn ogystal â’r ysgol Gymraeg gyntaf erioed yn Nhrefynwy a chanolfan Gymraeg yn Sir Ddinbych.

‘Cam tuag at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg’

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Tamsin Davies ar ran Cymdeithas yr Iaith fod yr arian yn “gam tuag at gyrraedd y filiwn o siaradwyr Cymraeg”, a bod y mudiad yn ategu barn Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) fod angen ehangu’r gronfa.

“Nod y gronfa yw symud yn rhagweithiol tuag at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn hytrach nag ymateb i’r galw yn unig.

“Mae angen adlewyrchu’r meddylfryd newydd hwn mewn cyfraith wlad – mae gwir angen Bil Addysg Gymraeg er mwyn sefydlu seiliau newydd a nod hir dymor i’r holl system. Cyfundrefn newydd a ddylai sicrhau, dros amser, mai’r Gymraeg yw prif gyfrwng addysg ein gwlad. Mae hynny’n yn bosib o fewn yr ychydig ddegawdau nesa’.

“Mae rhaid cofio hefyd am y disgyblion sydd ddim mewn addysg Gymraeg o gwbl ar hyn o bryd – mae angen disodli Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster i bob disgybl a sicrhau bod pawb yn dod yn rhugl yn yr iaith.”

‘Angen mor allweddol’

Mae cadeirydd mudiad Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd, “yn falch iawn o glywed bod yr arian ar gael ar gyfer hyrwyddo angen mor allweddol”.

“Byddwn yn pwysleisio fodd bynnag ein bod am weld yn Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol greu cynlluniau i ddatblygu addysg Gymraeg dros gyfnodau o 10 ac 20 mlynedd er mwyn sicrhau cynllunio pellgyrhaeddol,” meddai wedyn.

“Bydd angen cefnogi’r gwariant gyda rhaglen sy’n caniatáu gweithredu brys a chynllunio hirdymor deallus er mwyn creu cynllun eang a fydd yn cyfrannu’n realistig at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.”