Mae’r BBC wedi gwadu’r honiad bod cyflwynydd radio o Gymru yn gwrthod chwarae rhai artistiaid ar ei sioe os ydyn nhw wedi cael addysg breifat.

Mewn cyfweliad â Music Week fe ddywedodd bod angen “ystyried pwy sydd wedi cael help llaw yn ei bywydau. Os ydych wedi bod trwy’r system ysgol breifat, rydych wedi cael llawer o help”.

Mae’r sylwadau yma wedi cael eu defnyddio gan ran o’r wasg Seisnig i brofi ei bod yn “gwahardd” caneuon gan bobol o gefndiroedd breintiedig ar ei rhaglen ar orsaf BBC Radio 6.

Bellach mae’r BBC, llefarydd ar ran y gyflwynwraig, a Cerys Matthews ei hun wedi ymateb gan wadu’r honiadau.

Ymatebion

“Does dim un artist yn cael ei wahardd o BBC Radio 6 Music,” meddai llefarydd ar ran y BBC. “Dydi Cerys ddim wedi awgrymu bod unrhyw ganeuon wedi cael eu gwahardd o’i sioe.”

“Rhestrau chwarae Cerys yw’r rhai mwyaf amrywiol ar radio ledled y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran Cerys Matthews wedyn.

“Er gwybodaeth, dw i ddim yn gwahardd cerddoriaeth unrhyw un. Diolch i bapur newydd The Daily Mail am fethu’r pwynt er mwyn mynd ar ôl penawdau rhad,” meddai.

Sylwadau y gyflwynwraig yn llawn

“O ystyried y ffordd mae’r byd ar hyn o bryd, dylem allu chwarae cerddoriaeth ym mhob iaith a diwylliant gwahanol, a chwarae cerddoriaeth dda,” meddai Cerys Matthews wrth Music Week.

“Mae rhagor o gerddoriaeth ac artistiaid yn golygu cerddoriaeth o ansawdd uwch. Ond, wrth gwrs rhaid ystyried pwy sydd wedi cael help llaw yn eu bywydau.

“Os ydych wedi bod trwy’r system ysgol breifat, rydych wedi cael llawer o help.”