Mae 50 o aelodau cangen ieuenctid Plaid Cymru am i Leanne Wood aros yn arweinydd.

Mewn llythyr agored sydd wedi’i bostio ar wefan Twitter, mae aelodau o Blaid Ifanc yn canmol Leanne Wood am “ysbrydoli cenhedlaeth newydd o aelodau a phobol ifanc ar draws Cymru”.

Mae’r hanner cant hefyd yn dweud bod Aelod Cynulliad Rhondda wedi eu “hysgogi [â] gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol”.

“Credwn fod gwleidyddiaeth Leanne wedi bod yn hollbwysig wrth greu’r bwrlwm hwn ymysg cefnogwyr ifanc,” meddai’r llythyr.

“Gweledigaeth o Gymru ffyniannus, gynaliadwy ac annibynnol sydd gan Leanne. Mae ei gwerthoedd canolog … wedi sicrhau ein bod wedi cymryd y safbwynt cywir ar y materion sy’n diffinio’n hoes …”

Cystadleuaeth

Yr Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price, a Rhun ap Iorwerth, sydd wedi herio Leanne Wood am arweinyddiaeth y blaid, a bydd enillydd yr ornest yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 28.

Mae Plaid Ifanc a’i his-changhennau wedi cyhoeddi y byddan nhw’n niwtral yn ystod yr ymgyrch, ac wedi annog eu haelodau i gefnogi pwy bynnag yr hoffent.

Ymhlith aelodau sydd â’u henwau ar y llythyr agored i Leanne Wood, mae Cyd-Gadeirydd Plaid Ifanc, Sioned Treharne, a’u Hysgrifennydd, Sioned James.