Fe fydd Heddlu De Cymru’n dyblu’r nifer o blismyn sy’n derbyn hyfforddiant i ddefnyddio gwn Taser yn ystod y flwyddyn nesaf, yn dilyn cynnydd yn nifer y troseddau sy’n ymwneud ag arfau a gangiau.

Bydd nifer y swyddogion sy’n derbyn hyfforddiant yn cynyddu o 10% i 20% o 2019 ymlaen, sef 281 o blismyn yn ychwanegol.

Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn cynnal adolygiad ynghylch y ffyrdd gorau o amddiffyn y cyhoedd a’r her o gorfod delio ag ymosodiadau ar blismyn.

“Camddeall”

Yn ôl Comisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael, sy’n croesawu’r cyhoeddiad, mae’r defnydd o gwn Taser yn aml yn cael ei “gamddeall”.

“Er mwyn sicrhau nad ydi Tasers yn cael eu camddefnyddio mae’r defnydd ohonyn nhw angen cael ei reoli, ac mae gofal mawr yn cael ei gymryd wrth hyfforddi swyddogion sy’n cario Tasers er mwyn sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldeb,” meddai.

“Mae eu defnydd hefyd yn cael eu harchwilio’n ofalus gan uwch swyddogion, gan y Swyddfa Carterf a chyrff allanol eraill er mwyn sicrhau bod gynnau Taser ddim ond yn cael eu defnyddio i atal niwed i ddioddefwyr, y cyhoedd, plismyn a throseddwyr eraill.”

Defnyddio Taser

Mewn 90% o achosion, dyw swyddog sydd â hawl i gario gwn Taser ddim yn ei ddefnyddio, meddai Heddlu De Cymru.

Mae ffigyrau gan y llu’n dangos bod gynau Taser wedi cael eu defnyddio mwy na 13,000 o weithiau rhwng hydref 2007 a 2018.

Yn ystod y cyfnod 2017/18, cafodd Tasers eu defnyddio mewn 227 o achosion, ac yn rheiny, dim ond 16 o weithiau y cafodd un ei danio.