Mae dau Aelod Cynulliad a oedd â’u bryd ar fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru wedi tynnu eu henwau’n ôl o’r gystadleuaeth, gan ddatgan eu cefnogaeth i Eluned Morgan yn lle.

Mae Huw Irranca-Davies ac Alun Davies wedi cyhoeddi na fyddan nhw bellach yn ymuno â’r ras i olynu Carwyn Jones.

Mewn datganiad ar y cyd â’r Aelodau Cynulliad David Rees a Dawn Bowden, mae’r ddau wedi dweud eu bod nhw am genfogi Eluned Morgan er mwyn sirchrau “dadl iach”.

“Bydd pob un ohonom yn ffurfio ein barn ein hunain ar fanteision yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y papur pleidleisio, ond heddiw rydym yn cadarnhau ein bod yn rhoi ein henwebiadau i Eluned Morgan AC er mwyn ceisio sicrhau ei bod yn cystadlu yn yr etholiad arweinyddol,” meddai’r pedwar mewn datganiad ar y cyd.

Un yn brin

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn dal i fod un yn brin er mwyn sicrhau ei lle ar y papur pledleisio.

Mae angen i Aelodau Cynulliad dderbyn enwebiadau gan pum aelod arall er mwyn ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Ar hyn o bryd, dim ond yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, a’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, sydd â digon o gefnogaeth.

Mae’r arweinydd presennol a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud na fydd yn rhoi cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd.

Mae disgwyl i’r arweinydd nesaf gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr.