Heddiw (dydd Mawrth, Medi 18) mae menter gymunedol yn agor ei drysau ym mhentref Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle, ar safle un o hen fanciau HSBC.

Mae ‘Y Banc’ yn cynnwys deli; gofod chwarae meddal i blant a man cyfarfod i rieni; gwasanaethau gwybodaeth i ymwelwyr; ynghyd â siop sy’n gwerthu cynnyrch gan go-operatif o grefftwyr lleol.

Antur Nantlle sydd y tu ôl i’r gwaith gwerth £100,000 o greu’r ‘hwb’ ar gyfer y cyn-ddyfryn chwarelyddol. Y nod ydi gwasanaethu’r gymuned, arddangos yr hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig, a denu rhagor o bobol i siopa i’r dyffryn.

Fe gaeodd HSBC eu cangen ym Mhen-y-groes yn 2014, gan adael yr ardal heb yr un banc a dim ond un peiriant codi arian. Roedd Antur Nantlle yn berchen yr adeilad ers 2002 ac yn ei rentu i HSBC.

Mae cynllun Y Banc wedi cadw’r hen sêff yn yr adeilad – mae’n stafell fechan y gall siopwyr ac ymwelwyr gerdded i mewn iddi, ac mae holl beirianwaith y clo yn y drws trwchus a thrwm wedi’i gadw a’i arddangos trwy haen o wydr persbecs.

Cyn bod yn fanc – Midland ac yna HSBC – yr adeilad yng nghanol pentref Pen-y-groes oedd swyddfa bost a chyfnewidfa ffôn gyntaf yr ardal, gyda’r rhif ffôn Pen-y-groes 1.