Mae cwest wedi cael ei agor a’i ohirio i farwolaeth bachgen o Lanelli a gafodd ei ddarganfod yn yr ysgol yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Bradley John, 14, yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gatholig St John Lloyd, Llanelli. Fe gafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw tua chanol dydd, dydd Mercher, Medi 12 ac fe fu’r bachgen farw ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty.

Dyw ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Mae tad Bradley John yn honni iddo gael ei fwlio yn yr ysgol.

Mae disgwyl gwrandawiad pellach ym mis Tachwedd.

Mae golwg360 wedi gofyn i Ysgol Gyfun Gatholig St John Lloyd am ymateb.