Bu farw’r hyfforddwr bocsio penigamp, Enzo Calzaghe, yn 69 oed.

Roedd yn dad ac yn hyfforddwr i’r cyn-bencampwr y byd bocsio Joe Calzaghe, a wnaeth orffen ei yrfa 46 gornest heb golli unwaith.

fe sefydlodd ei glwb hyfforddi cyntaf mewn sied yn yr ardd ym Mhontnewydd, ger Cwmbrân.

Roedd y paffwyr o Gymru Gavin Rees ac Enzo Maccarinelli hefyd wedi cael eu hyfforddi gan Enzo Calzaghe.

Mewn datganiad, mae’r teulu wedi dweud bod ei farwolaeth “yn dorcalonnus” ac maen nhw wedi diolch y cyhoedd a’r gymuned paffio am eu cefnogaeth.

“Roedd bywyd Enzo tu fewn a thu allan i’r gampfa yn anhygoel, ac mae ei golled yn dorcalonnus i deulu cyfan y Calzaghes,” meddai’r teulu.

“Gofynnwn am breifatrwydd a pharch yn ystod y cyfnod anodd yma.”