Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, eisiau i Mark Drakeford olynu Carwyn Jones yn Brif Weinidog ar Gymru.

Bydd Carwyn Jones yn camu o’r neilltu yn yr hydref a bellach mae dau Aelod Cynulliad wedi ennill digon o enwebiadau i gystadlu am ei rôl: Mark Drakeford a Vaughan Gething.

Mae’n ymddangos mai Mark Drakeford yw’r ceffyl blaen ar hyn o bryd, a bellach mae Hannah Blythyn wedi ymuno â sawl un arall sy’n ei gefnogi.

Mae Aelod Cynulliad Delyn wedi dweud mai ef “fyddai orau” i fynd i’r afael â dau o’r “heriau mwyaf sylfaenol yr ydym yn wynebu”, sef Brexit ac agenda llymder Llywodraeth San Steffan, meddai.

Hefyd, mae angen “cysylltiad cryfach” rhwng Bae Caerdydd a Gogledd Cymru yn ôl Hannah Blythyn, ac mae’n credu bod Mark Drakeford yn deall hynny.

“Cyfnod tymhestlog”

“Rydw i wedi rhoi ystyriaeth ofalus i bwy fyddai orau i’n harwain trwy’r cyfnod gwleidyddol ac economaidd heriol o’n blaen,” meddai Hannah Blythyn.

“Dw i’n credu mai Mark Drakeford yw’r person hwnnw.”

“… Mark sydd â’r profiad, egwyddorion, a’r blaenoriaethau er mwyn ein llywio trwy’r cyfnod tymhestlog yma, ac ein rhoi ar drywydd tuag at ddyfodol tecach.”