Mae delwedd newydd Carwyn Jones wedi cael ei groesawu gan ‘Fudiad Rhyddid y Barf’.

Mae’r grŵp wedi canmol y Prif Weinidog am dyfu barf, gan gymharu’r blewiach â “barf halen a phupur [Arweinydd y Blaid Lafur] Jeremy Corbyn”.

Dyw Carwyn Jones heb dyfu barf ers Awst 2016, meddai’r grŵp, a’u tyb nhw yw bod y Prif Weinidog wedi newid ei steil oherwydd ei fod yn ildio’r awenau yn yr hydref.

“Mae gwleidyddion gwrywaidd yn aml yn tyfu barf pan maen nhw’n camu o’r neilltu,” meddai Mudiad Rhyddid y Barf mewn datganiad.

Bae blewog

“Mae Bae Caerdydd yn llawer mwy blewog na phan oedd gan Carwyn Jones farf y tro diwetha’,” meddai Keith Flett, trefnydd Mudiad Rhyddid y Barf.

“Efallai ei fod yn herio’r drefn, a’n mynd â’r lli ar yr un pryd. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn disgwyl i Neil Hamilton dyfu barf yn y dyfodol agos.”

Mudiad Rhyddid y Barf

Er bod y grŵp yn ddychanol yn y bôn, mae ei aelodau yn gweithio tuag at nod fwy difrifol sef  rhwystro rhagfarn yn erbyn pobol â barfau.

Cafodd ei sefydlu yn 1995, ac mae’n debyg yr oedd cannoedd o bobol yn aelodau ar un adeg.