Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd ati i sicrhau bod myfyrwyr o Gymru yn medru astudio a byw yn Ewrop wedi Brexit.
Dyna mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) Cymru yn galw amdano. Mae’r corff yn pryderu’n bennaf am ddyfodol rhaglen Erasmus+.
Mae’r rhaglen hwnnw yn galluogi myfyrwyr i weithio yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn galluogi staff addysg i fynd ar gyrsiau dysgu yno.
Ond, mae UCM Cymru yn gofidio y gallai Brexit heb fargen rhoi ddiwedd ar hyn, a bellach mae’r undeb wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog, Theresa May, yn lleisio’u pryderon.
“Trychinebus”
“Byddai Brexit heb fargen yn drychineb i sector addysg Cymru,” meddai Llywydd UCM Cymru, Gwyneth Sweatman.
“Mae cynlluniau fel Erasmus+ yn rhoi cyfleoedd anhygoel i fyfyrwyr Cymru astudio a gweithio dramor, sy’n gallu newid bywydau.
“Oherwydd diffyg penderfyniad gwleidyddion, mae ein mynediad i’r cynllun hwn ac eraill mewn perygl.”
Llythyr ac arolwg
Yn eu llythyr, sydd wedi’i gyhoeddi gan y Western Mail, mae UCM Cymru yn galw ar y Llywodraeth i “wrando ar lais” Cynulliad Cymru, ac yn galw am ail refferendwm Brexit.
Hefyd, mae arolwg a gafodd ei gomisiynu gan yr undeb yn dangos bod 73% o bobl yng Nghymru’n credu y dylai myfyrwyr Cymru allu parhau i fyw a gweithio yn Ewrop ar ôl Brexit.