Fe fydd na oedi i deithwyr ar yr A55 am bum wythnos o heddiw (dydd Llun, 17 Medi) ymlaen wrth i waith cynnal a chadw ar bont ger Llanddulas, Sir Conwy gael ei gwblhau.

Mae’r ffordd orllewinol ynghau a thraffig yn teithio i’r ddau gyfeiriad ar yr ochr ddwyreiniol ger Cyffordd 23 hyd at Gyffordd 22 yn Hen Golwyn.

Mae disgwyl i’r gwaith ar Bont Kneeshaw Lupton barhau am bum wythnos.