Mae dynes 42 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd neithiwr (dydd Sul, Medi 16).

Fe fu’r digwyddiad ar Rover Way am tua 7yh neithiwr, pan wnaeth car BMW 318 arian golli rheolaeth a gwrthdaro â char Jaguar XF lliw glas.

Cafodd y rhai oedd yn teithio yn y Jaguar, a gyrrwr y BMW,  fân anafiadau.

Mae gyrrwr y BMW, dyn 30 oed, yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Roedd y ddynes 42 oed a gafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn teithio yn y BMW.

Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad neu’r modd yr oedd y BMW yn cael ei yrru cyn y digwyddiad, i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.