Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion ar ôl i ddynes 79 oed farw wedi iddi gael ei tharo gan fan wrth gerdded yn Yr Ystog.

Dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am y ddynes hyd yn hyn yn dilyn cais gan y teulu.

Ond maen nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad ar ffordd A489, pan darodd fan Ford Transit i mewn iddi ger siop Co-op am oddeutu 11.30 fore Sadwrn (Medi 15).

Mae’r crwner wedi cael gwybod.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.