Mae pryderon am ddynes 30 oed o Bontypridd sydd ar goll ers pedwar diwrnod.

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am Marad Griffiths, sydd ddim wedi cael ei gweld ers pedwar diwrnod. Roedd hi yn Kensington yng ngorllewin Llundain ar y pryd.

Dywedodd yr heddlu bod ei theulu’n gofidio amdani.

Disgrifiad

Mae Marad Griffiths yn ddynes â chroen gwyn, yn 5’5″ o gorffolaeth fach a chanddi lygaid brown.

Mae ganddi wallt brown hir a chyrliog at ei hysgwyddau.

Roedd hi’n gwisgo trowsus du, crys-T gwyrdd â llewys tri chwarter, siaced lwyd denau ac esgidiau cuddliw.

Mae’r heddlu’n credu y gallai hi fod yn ardal Kensington o hyd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.