‘Un aelod, un bleidlais’ fydd y drefn ar gyfer ethol arweinydd newydd Llafur Cymru i olynu Carwyn Jones.

64% oedd y blaid y dull hwn o ddewis arweinydd a Phrif Weinidog newydd, fel bod aelodau’n cael pleidlais gyfartal.

Maen nhw wedi gwrthod yr opsiwn a fyddai wedi gweld y coleg etholiadol yn cael ei ddiwygio, lle byddai hanner y bleidlais yn mynd i aelodau’r blaid a’r hanner arall i aelodau cysylltiedig.

Mark Drakeford a Vaughan Gething yw’r unig ymgeiswyr sydd wedi ennill digon o gefnogaeth i fod yn y ras i olynu Carwyn Jones pan fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd ym mis Rhagfyr.

Mae Mark Drakeford yn un sydd o blaid y drefn sydd wedi’i dewis, a’r undeb Unite Cymru hefyd o’i phlaid.

Adolygiad yr Arglwydd Murphy

Daw’r newid yn sgil adolygiad gan y cyn-weinidog Llafur, yr Arglwydd Murphy.

Roedd nifer yn gwrthwynebu cadw at y drefn o’r coleg etholiadol, lle’r oedd y bleidlais wedi’i rhannu rhwng aelodau, undebau a gwleidyddion.