Fe fydd Llafur Cymru’n penderfynu heddiw sut i ethol arweinydd nesa’r blaid a Phrif Weinidog nesaf Cymru, wrth i Carwyn Jones baratoi i gamu o’r neilltu.

Fe fu cryn drafod dros y misoedd diwethaf a ddylai’r holl bleidleisiau yn y ras fod yn gyfwerth â’i gilydd, sef y drefn a gafodd ei defnyddio i ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd y blaid Brydeinig.

Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yw’r ddau sydd wedi sicrhau digon o gefnogaeth i fod yn ymgeiswyr yn y ras.

Dydy Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies nac Alun Davies ddim wedi sicrhau digon o bleidleisiau i gael eu hystyried.

Opsiynau

Fe fydd gofyn i bobol sy’n mynychu cynhadledd arbennig heddiw benderfynu ai’r drefn ‘un aelod, un bleidlais’ fydd yn cael ei dewis, neu a fydd rhai pleidleisiau’n werth mwy na’i gilydd. Byddai pleidleisiau’n cael eu rhannu tair ffordd rhwng aelodau, undebau a gwleidyddion.

Opsiwn arall yw rhoi hanner y bleidlais i aelodau’r blaid a’r hanner arall i aelodau cysylltiedig.

Cafodd yr opsiynau eu cynnig gan yr Arglwydd Murphy yn dilyn arolwg.

Mark Drakeford yw’r ffefryn i ennill y ras, ac mae yntau’n ffafrio’r drefn ‘un aelod, un bleidlais’.