Mae llanc 17 oed o Sir Gaerfyrddin a fagodd flas am drais eithafol, wedi cael ei garcharu am lofruddio ei lysfam.

Roedd Rueben Brathwaite yn byw ar Broodmoor Farm, San Clêr, gyda’i dad, Charles Brathwaite, a Fiona Scourfield.

Ac ar y fferm honno aeth ati i lofruddio’r ddynes 54 oed gyda bwyell a chleddyf samwrai.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y llanc wedi datblygu obsesiwn am fideos ar-lein cyn cyflawni’r drosedd, ac ymhlith y deunydd hwnnw roedd clipiau o hunanladdiad a llofruddiaeth.

Beth ddigwyddodd?

Ar ôl dychwelyd o’r ysgol ar Fawrth 6, ac ar ôl treulio peth amser allan ar y fferm, fe ddenodd Rueben Brathwaite ei lysfam o’r ffermdy drwy honni bod cath wedi ei hanafu.

Roedd eisoes wedi cael gafael ar ei arfau, ac wedi iddi ddod allan o’r tŷ fe darodd hi ar ei phen â bôn y fwyell, cyn ei tharo sawl gwaith eto ar y llawr.

Wedi hynny, aeth â’r cleddyf a sleisio a thrywanu ei gwddf sawl gwaith.

Gyda’r llysfam yn farw ar y llawr, tynnodd luniau ohoni a cheisiodd eu gosod ar y We, ond bu’n aflwyddiannus.

Ar ôl y llofruddiaeth, mi alwodd yr heddlu gan gyfaddef i’r drosedd a mynnu ei fod wedi cyflawni’r weithred oherwydd ei fod eisiau lladd ei hun, ond yn methu.

Dedfryd

Bydd Rueben Brathwaite yn treulio o leiaf 15 mlynedd dan glo.