Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i olion dynol wrth iddyn nhw archwilio gwesty Tŷ Belgrave yn Aberystwyth.

Daw hyn dros ddau fis ar ôl i’r adeilad ar y prom fynd ar dân ar Orffennaf 25.

Dyw’r heddlu ddim wedi adnabod y corff yn ffurfiol eto, ond mae teulu’r dyn o Lithwania sydd wedi bod ar goll ers y tân wedi cael gwybod am y darganfyddiad.

Yn y cyfamser, mae ymchwiliad yr heddlu i achos y tân yn parhau.