Un o gyfrinachau llwyddiant y dafarn gydweithredol hynaf yn Ewrop yw’r ffaith ei bod wedi “llwyddo i dynnu mwy nag un genhedlaeth i mewn i un weithgaredd lleol,” yn ôl un o’r cyfarwyddwr.

Mae’n 30 mlynedd ers i griw o bobol leol fynd ati i brynu Tafarn y Fic yn Llithfaen, Pen Llŷn, mewn cyfnod pan oedd bragdy mawr o Loegr yn bygwth ei chau.

Mae 12 cyfarwyddwr yn rheoli’r dafarn erbyn hyn, ac yn ôl un ohonyn nhw, roedd y criw gwreiddiol yn 1988 yn “anturus” ac yn “fodlon wynebu sawl her”.

“Roeddan nhw wedi rhoi eu bys ar y peth o’r dechra: bod economi yn gallu llwyddo os ydy o mewn dwylo lleol,” meddai Myrddin ap Dafydd wrth golwg360.

“Ac wedyn, wedi llwyddo i wneud yr ardal feddiannu’r dafarn. Ein tafarn ni oedd hi – doedd yna ddim ffasiwn beth â ni a nhw o ran y rhai oedd ar y pwyllgor a’r ardalwyr. Roedd pawb wedi meddiannu’r freuddwyd.”

Denu’r to iau

Mae’r prifardd a’r darpar archdderwydd yn dweud bod erbyn hyn sawl to o bobol leol yn cyfrannu at lwyddiant Y Fic, gyda phob cenhedlaeth wedi “ymestyn” ac ychwanegu at y weledigaeth wreiddiol.

Bellach mae’r dafarn wedi symud o fod yn “dafarn Cymraeg sy’n cynnig adloniant,” meddai, i dafarn sy’n cynnal gwyliau a gweithgareddau cymunedol, fel codi arian at elusennau a chynnig stafelloedd i gorau ymarfer.

“Mae yna tua hanner dwsin o rai ifanc o’r pentref ar y pwyllgor erbyn hyn, a nhw wnaeth ofyn: ‘pryd ydan ni’n cael cyfrannu i’r Fic?

“Mae’r dyhead yna i weithio er mwyn y sefydliad cymunedol fel ydy o, a’r ffaith ei fod wedi llwyddo i ddenu sawl cenhedlaeth o wirfoddolwyr yn allweddol i’w llwyddiant.”