Mae elusen yn apelio am wybodaeth wedi i iâr gael ei darganfod heb ben yn y de.

Cafodd yr iâr ei darganfod ar ddydd Sul (Medi 9) ger Heol Tranch, Pont-y-pŵl; a bellach mae ymdrech ar droed i ddod o hyd i’w pherchennog.

Yn ôl elusen yr RSPCA, mae milfeddyg wedi cadarnhau mai llafn wnaeth dorri’r pen i ffwrdd, nid anifail gwyllt.

“Dyw torri pen i ffwrdd yn y math fodd ddim yn drugarog,” meddai arbenigwr lles ieir yr RSPCA, Mia Fernyhough. “Cafodd yr iâr ei lladd tra’r oedd hi dal yn fyw.

“Dylai perchnogion ieir anwes gysylltu â milfeddyg os ydyn nhw’n pryderu am les eu hieir.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â llinell apêl yr elusen trwy alw 0300 123 8018.