Mae Academi Dronau wedi’i sefydlu yng Ngwynedd a fydd yn rhoi cyfle i bobol ifanc rhwng 14 a 19 oed ddysgu sut i ddefnyddio’r dechnoleg.

Mae’r academi wedi’i leoli yng Nghanolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr ger Harlech, ac fe fydd yn un o ddau le yng ngwledydd Prydain sy’n caniatáu i dronau hedfan gyda llai o reoliadau o fewn radiws o 100km o’r maes awyr.

Yn ôl Rheolwr Arloesi Gwynedd Wledig, Zoe Pritchard, nod y prosiect yw “annog gwaith tîm, meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd”.

Y prosiect

Mae’r academi yn cael ei hariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig a Chyngor Gwynedd, gyda sesiynau’n cael eu cynnal am ddim i bobol ifanc bob dydd Sadwrn rhwng Medi 15 a Hydref 20.

Mae hefyd wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, yn ogystal â’r Awdurdod Dad-gomisiynu Niwclear (NDA).

“Bydd siaradwyr gwadd yn ymweld o nifer o wahanol feysydd fel y Tîm Achub Mynydd, Amaethyddiaeth, Heddlu Gogledd Cymru a Ffotograffiaeth,” meddai Zoe Pritchard.

“Bydd yn helpu i amlygu’r nifer fawr o gyfleoedd swydd newydd sydd wedi ymddangos drwy’r datblygiadau mewn technoleg drôn.”