Mae’r bachgen a fu farw ar fuarth ysgol uwchradd yn Sir Gaerfyrddin ddoe (dydd Mercher, Medi 12) wedi’i enwi’n lleol.

Roedd Bradley John yn 14 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gatholig St John Lloyd, Llanelli.

Fe gafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw tua chanol dydd, ac fe fu’r bachgen farw ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty.

Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.