Bythefnos i heno, ar Fedi 27, fe fydd cangen Merched y Wawr yn cael ei sefydlu yn Llundain – ac mae’r cyfan wedi dod o ganlyniad i sefydlu grwp ffeministaidd Rhwydwaith Menywod Cymru ar wefan Facebook.

Yn ôl un o’r sefydlwyr, Sioned Rees-Jones, mae yna angen am gangen Merched y Wawr yn Llundain, gan nad oes llawer o gyfle i ferched y ddinas “gymdeithasu dros bryd o fwyd” trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fe gethon ni dipyn o fwrlwm pan fu Merched y Wawr yn dathlu hanner can mlynedd yn y Tŷ Gwydr yn ôl ym mis Rhagfyr y llynedd, a bu tipyn o sôn bryd hynny yn y cyfarfod y base’n braf cael sefydlu cangen’,” meddai’r athrawes ysgol gynradd wrth golwg360.

“Dw i wedi bwcio stafell i 70 ar gyfer y cyfarfod sefydlu. Fe fyddai’n braf pe basen ni’n gallu llenwi’r stafell honno.

“Bydden i’n dweud bod yn agos, os nad mwy nag ugain falle, wedi dweud yn barod eu bod nhw am drïo dod. Bydde hwnna’n galonogol iawn.”

Cangen i’r ddinas gyfan

Er bod y sefydlwyr wedi bod yn cysylltu’n gyson â phrif swyddfa Merched y Wawr yn Aberystwyth ynglŷn â chreu calendr ar gyfer y flwyddyn, mae Sioned Rees-Jones yn dweud y bydd gweithgareddau’r gangen newydd ychydig yn wahanol i rai Cymru.

“Dyw teithio ar draws Llundain ddim yn beth hawdd iawn i’w wneud ar wahanol adege o’r dydd, felly fydd pethe fel’na yn her,” meddai.

“A ydyn ni’n mynd i gyfarfod mewn un man canolog neu lefydd gwahanol? Mae hwnna’n rhywbeth i’w drafod.”

Bydd y gangen hefyd yn agored i ddysgwyr Cymraeg, ac mae sawl un eisoes wedi mynegi diddordeb mewn ymuno, meddai Sioned Rees-Jones.

“Yn amlwg, yn Gymraeg fyddwn ni’n cyfathrebu, ond dw i’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg, ac fe allwn ni eu cefnogi nhw drwy hynny hefyd fel eu bod nhw’n gallu ymarfer eu Cymraeg yn gymdeithasol.”

Y sefydlu

Bydd y cyfarfod sefydlu yn digwydd yng Nghanolfan Cymry Llundain yn Heol Grays Inn ar Fedi 27.

Fe fydd Llywydd Cenedlaethol y mudiad, Meirwen Lloyd, yno i lywio’r cyfarfod. Tâl aelodaeth bwyddyn fydd £16.