Mae sawl fferm yng Nghymru wedi profi achosion o’r diciâu oherwydd eu bod nhw’n caniatau helfeydd ger neu ar eu tir, yn ôl gwefan newyddion.

Mewn erthygl ar y mater, mae gwefan The Canary yn tynnu sylw at sawl helfa yng Nghymru a Lloegr yn cynnwys Sir Fynwy, ac Aberhonddu a Thalybont.

  • Yn achos Helfa Sir Fynwy roedd ganddyn nhw drwydded i hela ar ystâd y Fâl tan ddiwedd 2017, ac ar Fehefin 7 roedd yna achos o TB ar fferm yn ardal y drwydded, meddai’r wefan;
  • Fe gafodd tair fferm eu heffeithio gan TB rai misoedd wedi i Helfa Aberhonddu a Thalybont dderbyn trwydded i hela ar yr un ystâd, yn ôl The Canary wedyn.

Cafodd gwybodaeth o wefan ibTB – sy’n dangos achosion o’r diciâu – a mapiau ardaloedd trwyddedau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu cymharu fel rhan o’r dadansoddiad.

Erthygl

Daw’r dadansoddiad mewn erthygl am lythyr a gafodd ei anfon at yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn pledio arnyn nhw i wrthod pob un cais hela maen nhw’n ei dderbyn.

Mae’r elusen wedi cydnabod bod cŵn hela yn medru cael eu heintio gan TB, ond maen nhw’n dadlau nad ydyn nhw’n peri risg lledaenu yn yr un modd a moch daear.

Mae golwg360 wedi gofyn i Helfa Sir Fynwy a Helfa Aberhonddu a Thalybont am ymateb.