Mae esgobion yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru wedi cael caniatâd i fynd ati i ystyried sut y gall yr eglwys gynnig darpariaeth ffurfiol i gyplau hoyw.

Mae aelodau o Fwrdd Rheoli’r Eglwys yng Nghymru yn cytuno bod y sefyllfa bresennol, lle nad oes hawl gan gyplau hoyw briodi, yn “anghynaladwy yn fugeiliol”.

Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, fod esgobion o’r farn bod y diffyg darpariaeth ffurfiol ar gyfer cyplau o’r un rhyw yn “anghyfiawn”.

Mwyafrif o blaid

Fe gafodd pleidlais gudd ar y mater ei chynnal yn dilyn cyflwyniad gan yr Esgob Mark Strange o’r Eglwys Anglicanaidd yn yr Alban. Roedd y cyflwyniad ynghylch y broses yr aethon nhw drwyddi cyn rhoi’r hawl i gyplau hoyw briodi y llynedd.

Yn ystod y bleidlais ddoe (dydd Mercher, Medi 12), fe bleidleisiodd mwyafrif o blaid newid, a’r cam nesa’ i’r esgobion yng Nghymru fydd cynnal trafodaethau.

Fe gafodd pleidlais debyg ei chynnal yng Nghymru yn 2016, gyda’r canlyniad o blaid newid. Ond chafodd y canlyniad ddim ei weithredu ar y pryd, gan ei fod yn rhy agos.

Ystyried newid

“Mae’r esgobion yn unedig yn y gred ei fod yn anghynaladwy yn fugeiliol ac yn anghyfiawn i’r Eglwys i barhau i beidio â chynnig darpariaeth ffurfiol i’r rheiny sydd wedi ymrwymo i berthynas o’r un rhyw,” meddai John Davies.

“Er nad yw canlyniad heddiw trafodaeth dydd Mercher yn newid athrawiaeth nac ymarfer presennol yr Eglwys yng Nghymru ar briodas, rydw i’n falch ei fod yn darparu cyfarwyddyd pwysig i’r esgobion ar gyfer ymarfer gofal bugeiliol ac arweinyddiaeth ysbrydol ein gweinidogaeth.”