Mae’n “siomedig iawn” bod llond llaw o ddisgyblion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr methu ag astudio lefel A Cymraeg, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Roedd y disgyblion o Ysgol Gyfun Porthcawl, Porthcawl, wedi clywed bod modd iddyn nhw wneud y pwnc cyn belled â bod lleiafrif o dri yn ymrwymo i’w astudio

Ond, yn ôl adroddiad gan WalesOnline er i’r nifer angenrheidiol fynegi diddordeb, mae wedi dod i’r amlwg nad oes modd iddyn nhw wneud hynny oherwydd nad oes lle yn yr amserlen.

Pwyso am ateb

“Mae’n siomedig iawn gweld sefyllfa lle nad yw pobl ifanc yn cael cyfle i astudio’r Gymraeg ar lefel Safon Uwch,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “ac rydyn ni’n pwyso ar yr ysgol a’r awdurdod lleol i ddod o hyd i ateb i’r sefyllfa hon.”

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo, meddai’r llefarydd, “i gynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio’r Gymraeg ar lefel Safon Uwch”, ac maen nhw’n dweud bod gan y cyngor sir “rôl i’w chwarae” o ran hybu’r Gymraeg ym myd addysg.

Mae golwg360 wedi cysylltu â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysgol Gyfun Porthcawl am ymateb.