Fe fydd cyd-bwyllgor o’r gwledydd datganoledig yn cyfarfod heddiw (dydd Iau, Medi 12) i drafod Brexit am y tro cyntaf ers y gwyliau haf.

Bydd Cymru’n cael ei chynrychioli gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ac Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan Weinidog Swydfa Gabinet Prydain, David Lidington ac yn amlinellu sut y bydd argymhellion Llywodraeth Prydain o fudd i bob rhan o wledydd Prydain ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Hefyd yn bresennol fydd Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab.

Ar drothwy’r cyfarfod, mae David Lidington wedi galw ar lywodraethau gwledydd Prydain i “dynnu i’r un cyfeiriad” yn ystod y trafodaethau er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau ar ddiwedd y trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd.

Papur Gwyn Brexit

Mae Papur Gwyn sy’n cynnwys argymhellion Llywodraeth Prydain ar gyfer y cytundeb gorau wedi cael ei gyhoeddi ers i’r pwyllgor gyfarfod ddiwethaf ac yn ôl David Lidington, mae’n “ddatrysiad pragmataidd a dichonadwy”.

“Mae’n bryd dod ynghyd nawr, i dynnu i’r un cyfeiriad, a chytuno ar y Brexit uchelgeisiol a phragmataidd sydd o fudd i ni oll,” meddai.

“Mae adrannau’r llywodraeth wedi bod yn paratoi ar gyfer pob sefyllfa ers camau cynnar y trafodaethau a thrwy gyfarfodydd fel yr un heddiw, rydym yn ymgysylltu â gweinyddiaethau datganoledig ar gynllunio am sefyllfa heb gytundeb.

“Dyma ddull synhwyrol o weithredu a rhagofal sy’n sicrhau ein bod ni’n barod ar gyfer yr adeg pan fyddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.”