Mae mudiad Greenpeace wedi cyhuddo EDF o “gamgyfleu” eu safbwynt ar ddympio mwd o safle Hinkley Point C yng Nghaerdydd.

Yn ôl EDF, does dim gwahaniaeth rhwng y mwd sy’n cael ei ddympio a’r hyn sydd eisoes ar hyd yr arfordir yn ardal Penarth.

Ond mae’r mudiad yn “gofyn yn y termau cryfaf posibl i EDF roi’r gorau i ddatgan fod Greenpeace yn derbyn nad yw’r mwd yn wenwynig gan nad dyna yw ein barn ar hyn o bryd”.

Mae disgwyl i ragor o brofion gael eu cynnal, gyda’r bwriad o ollwng 300,000 tunnell o’r mwd i mewn i’r môr, ac mae Greenpeace yn galw am ragor o brofion cyn bod y broses honno’n cael parhau.

‘Parch’

Mewn datganiad, mae Greenpeace wedi galw am “barchu” pryderon trigolion lleol am faint o brofion sydd wedi cael eu cynnal ar y safle hyd yn hyn.

“Mae’n bwysig fod canlyniadau’r profion hyn yn gwaredu unrhyw amheuaeth resymol fod y mwd hwn yn niweidiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.”

Cefndir

Mae profion wedi cael eu cynnal ar y mwd gan asiantaeth Llywodraeth Prydain, CEFAS, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo canlyniadau’r profion hynny.

Ymhlith yr ymgyrchwyr oedd wedi cyflwyno’r her gyfreithiol ddechrau’r wythnos roedd y cerddor ac aelod o’r band Super Furry Animals, Cian Ciaran, a’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy.

Mae cronfa ar-lein sydd wedi’i sefydlu gan Neil McEvoy eisoes wedi cyrraedd y targed o £5,000, ac fe fydd yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i geisio sicrhau gwaharddiad dros dro ar gynlluniau EDF.

Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn gobeithio codi hyd at £15,000 er mwyn atal y cynlluniau’n derfynol.