Mae’r newyddiadurwraig ddadleuol, Katie Hopkins, wedi denu tipyn o ddychan am ei hymgyrch diweddaraf yn erbyn addysg Gymraeg.

Ddydd Sul (Medi 9) fe bostiodd neges ar wefan gymdeithasol Twitter yn galw ar rieni Cymru i gysylltu â hi os ydi eu plant wedi cael eu “heffeithio” gan addysg Gymraeg.

Ers hynny, mae hi wedi bod yn yn postio negeseuon, fideos a lluniau yn beirniadu addysg yng Nghymru a gwasg y wlad.

Bellach mae’r cyhoedd wedi ymateb i’w hymgyrch, gyda rhai yn cynnig dadleuon yn ei herbyn a sawl un arall yn ei dychanu.

“Cer o’ma”

Yr enghraifft ddiweddaraf o ddychan yn ei herbyn yw fideo gan Reg Phillips, 21 – fideo sydd wedi cael ei hoffi 3,000 o weithiau ar Twitter.

Yn y fideo, sy’n cynnwys iaith gref, mae’r unigolyn yn dod wyneb i wyneb â Katie Hopkins wrth iddi gynnal cyfweliad ag aelod o’r cyhoedd ar Stryd Santes Fair yng Nghaerdydd.

“Dwyt ti ddim o Gymru,” meddai Reg Phillips yn y fideo. “Cer o’ma. Does neb yng Nghymru moyn ti aros yma. Does neb yng Nghymru yn poeni amdanat ti.”

https://twitter.com/AuntyAusterity/status/1039189189064056834

Medrus

Mewn un neges sydd wedi cael ei ‘hoffi’ 1,600 o weithiau, mae dyn sy’n honni iddo ddysgu Saesneg mewn Ysgol Gymraeg yn cynnig dadl o blaid addysg Gymraeg.

“Dw i’n hapus i siarad â ti [Katie],” meddai. “Ond mwy na thebyg byddi di ddim eisiau gan fod gen i ddigonedd o dystiolaeth bod y sustem ysgolion cyfrwng Cymraeg o fudd i bawb.

“Mae’n creu dinasyddion mwy meddwl agored a phobol sy’n fedrus yn ieithyddol.”

“Cer i grafu”

Mewn neges arall ar Twitter mae dynes a symudodd i Gymru ddwy flynedd yn ôl yn sôn am brofiadau ei thri phlentyn sy’n mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg.

“Maen nhw i gyd yn astudio eu pynciau yn Gymraeg,” meddai. “A dw i’n falch iawn o siarad Cymraeg! Cer i grafu, Hopkins.”

Mae adroddiad arall gan wefan Nation.Cymru yn sôn am ddyn a dwyllodd Katie Hopkins gan wneud iddi gredu bod ganddo ffrindiau o’r enw ‘Smithy’ a ‘Gavin’.

Dau gymeriad o’r rhaglen boblogaidd Gavin and Stacey yw ‘Smithy’ a ‘Gavin’, a dywedodd y dyn eu bod yn cael eu bwlio mewn ysgol am eu bod yn siarad Cymraeg.