Mae Dyfed Edwards, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd, wedi ei benodi’n is-gadeirydd cyntaf bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru.
Fe fydd yn ymgymryd â’i rôl newydd ar unwaith ac yn gweithio o dan gadeirydd bresennol y corff llywodraethol, Kathryn Bishop.
Awdurdod Cyllid Cymru yw’r awdurdod trethi newydd a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru y llynedd, ac a ddaeth yn weithredol ym mis Ebrill 2018.
Bu Dyfed Edwards yn gyfarwyddwr anweithredol i’r Awdurdod ers y cychwyn cynta’ ym mis Hydref 2017.
Dros y pedair blynedd nesa’, mae disgwyl i’r Awdurdod gasglu dros £1bn o refeniw trethi ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru.