Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian, yw’r diweddara’ i ddatgan ei chefnogaeth i Adam Price yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Fe gyhoeddodd ei bod yn cefnogi Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr mewn cyfweliad â Radio Cymru heddiw (dydd Mawrth, Medi 11), a hynny yn dilyn hystingau ym Mhrifysgol Bangor neithiwr.

Dywed Siân Gwenllian mai Adam Price yw’r un i arwain Plaid Cymru wrth i Gymru “wynebu cyfnod newydd, heriol, cyffrous”.

“Fo ydi’r un i arwain”

“Mae ganddo weledigaeth uchelgeisiol; mae’n meddwl yn strategol; mae ganddo atebion cadarn,” meddai Siân Gwenllian.

“Dw i’n cefnogi Adam oherwydd mae Plaid Cymru a Chymru angen arweinydd sydd â chynllun ac arweinydd sydd â’r gallu i ysbrydoli eraill er mwyn gwireddu’r cynllun hwnnw,” meddai.

“Edrychaf ymlaen at gydweithio efo fo, dros Gymru.”

Her

Mae’r cyhoeddiad diweddara’ hwn yn golygu bod pob Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad yng ngogledd Cymru, ar wahân i Rhun ap Iorwerth yn Ynys Môn, yn cefnogi Adam Price.

Y tri ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth yw Leanne Wood, Rhun ap Iorwerth ac Adam Price.

Bydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 28.