Fe fydd £10.3m o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi yn sector technoleg y môr, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Wrth ymweld â Doc Penfro heddiw (dydd Mawrth, Medi 11), mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, gyhoeddi bod y cyllid ar gael i helpu’r cwmni, Bombora Wave Power Europe, ddatblygu teclyn a fydd yn cynhyrchu trydan o’r tonnau.

Bydd y prosiect penodol hwn yn costio tua £15m, ac mae disgwyl iddo greu hyd at 20 o swyddi newydd yn y de-orllewin.

“Ar flaen y gad”

“Mae datblygwyr o bob cwr o’r byd yn dangos diddordeb mewn datblygu prosiectau yn nyfroedd Cymru, gan gydnabod bod gan Gymru rai o’r adnoddau a strwythurau cymorth gorau ym maes ynni’r môr,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’n amser cyffrous iawn i ynni’r môr yng Nghymru, ac mae’r fenter hon yn gam pwysig arall i adeiladu diwydiant ffyniannus yn Sir Benfro ac yng Nghymru gyfan.”