Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi argymell lleihau’r nifer o etholaethau yng Nghymru o 40 i 29 yn ei adroddiad terfynol.

Mae hyn yn rhan o gynllun ehangach a fydd yn gweld y nifer o Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin yn gostwng o 650 i 600.

Wrth osod ffiniau newydd, nod y Comisiwn oedd sicrhau bod rhwng 71,000 a 79,000 o bleidleiswyr ymhob etholaeth.

Rhai argymhellion

Ymhlith yr argymhellion sydd wedi’u cyflwyno gan y Comisiwn mae rhannu etholaeth Sir Drefaldwyn yn ddwy, gyda’r rhan ogleddol yn cyfuno â De Clwyd a’r rhan ddeheuol â Sir Faesyfed a Brycheiniog.

Bydd etholaeth Canol Caerdydd yn cael ei diddymu, tra bo dwy o etholaethau Casnewydd yn cyfuno i greu un.

Bydd Ynys Môn a Bangor wedyn yn cyfuno i greu un etholaeth, yn ogystal â Cheredigion a rhan o ogledd Sir Benfro.

Mae’r adroddiad terfynol wedi’i gyflwyno gerbron y Senedd yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Medi 10), ac mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio arno.