Mae Carl Foulkes wedi cael ei benodi’n Brif Gwnstabl newydd Heddlu Gogledd Cymru.

Daw’r gŵr 47 oed yn wreiddiol o Gaergwrle ger Wrecsam, a bu’n gwasanaethu fel milwr yn Rhyfel y Gwlff ddechrau’r 1990au.

Bu wedyn yn gweithio i Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu Glannau Merswy, lle bu’n ddirprwy brif gwnstabl.

Wrth dderbyn y swydd, mae Carl Foulkes yn dweud mai ei ddau brif flaenoriaeth yw amddiffyn dioddefwyr, yn enwedig dioddefwyr trais yn y cartref, a mynd i’r afael â throseddau sydd wedi’u trefnu.

Mae hefyd wedi rhoi addewid i ddysgu Cymraeg wrth ymgymryd â’r swydd, ac mae eisoes wedi cofrestru ar gwrs dwys yn y ganolfan iaith yn Nant Gwrtheyrn, meddai’r heddlu.

Amddiffyn a diogelu

“Mae angen i ni drechu troseddau trefnedig difrifol fel bod pobl yn hapus i fyw yma a theimlo’n hyderus yn eu cymunedau,” meddai.

“Ond, i mi, fydd y tri mis cyntaf yn ymwneud yn bennaf ag ymgysylltu mewnol ac allanol, gan fynd allan i gyfarfod gyda’n staff a’n partneriaid.

“Mae bod yn brif gwnstabl Gogledd Cymru yn rhywbeth yr wyf yn teimlo’n angerddol yn ei gylch, ac mae gen i ymroddiad dwfn i wneud y gwaith hyd eithaf fy ngallu.

Cychwyn ar y gwaith

Cafodd Carl Foulkes ei benodi i’r swydd ar ôl cael ei enwebu gan Gomisiynydd yr Heddlu yng ngogledd Cymru, Arfon Jones.

Mae disgwyl iddo ddechrau ar y gwaith ar Dachwedd 5.