Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi galw am ymddiheuriad ar ôl i Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei gyhuddo o ragfarn wrth-Seisnig.

Roedd Alun Cairns ar Radio Wales fore heddiw yn trafod Pwerdy Gorllewin Prydain, cynllun i uno de Cymru a de-orllewin Cymru fel rhan o ranbarth economaidd.

Dywedodd Alun Cairns fod cymhelliant “gwrth-Seisnig” y tu ôl i wrthwynebiad yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr i’r cynllun, ac na fyddai’n gwrthwynebu partneriaeth debyg rhwng “de-orllewin Cymru a Gweriniaeth Iwerddon”.

“Rwy’n amau hynny,” meddai Alun Cairns. “Rwy’n amau fod a wnelo hyn â bod yn wrth-Seisnig.”

“Sylwadau gwarthus”

 Wrth ymateb i sylwadau Alun Cairns, dywedodd Jonathan Edwards ar ei dudalen Twitter: “Dydy hi ddim yn wrth-Seisnig i fod eisiau datblygu strategaeth economaidd yn benodol i Gymru, @AlunCairns, yn hytrach na pholisi Llafur/Torïaidd o ogynnwys ein gwlad.

“Dylech chi dynnu’ch sylwadau gwarthus ar Radio Wales y bore yma yn ôl.”

Wrth ymhelaethu yn ystod trafodaeth ar raglen Taro’r Post ar Radio Cymru, dywedodd Jonathan Edwards, “Rwy’n credu bod unrhyw wleidydd yn cyhuddo gwleidydd arall, heb sôn am wleidydd llywodraethol fel Alun Cairns, o hiliaeth yn rhywbeth hollol anhygoel.

“Rwy’ wedi siomi, mae’n hollol enllibus beth mae e wedi dweud. Chi’n methu jyst galw rhywun yn hiliol heb unrhyw fath o dystiolaeth ac yn sicr, mae e wedi torri’r Cod Gweinidogol, ac fe fydd camau’n cael eu dilyn yn sgil hynny.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb pellach gan Alun Cairns.