Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am sicrwydd y bydd mwy o elfennau Cymraeg – gan gynnwys sylw i dafodieithoedd – yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd a fydd yn cael ei roi ar waith yn 2022.

Mewn llythyr at holl Gonsortiau Addysg Cymru, dywedodd Aled Thomas, sy’n aelod o Gymdeithas yr Iaith, fod angen rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau llafar fel rhan o’r cwricwlwm newydd, gan gynnwys rhoi mwy o le i dafodieithoedd.

Dywedodd yn ei lythyr fod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gontinwwm dysgu Cymraeg “yn bwysig iawn i ni fel sefydliad”, cyn awgrymu y gallai rhoi mwy o sylw i dafodieithoedd “wella gwerth ac ansawdd addysg cyfrwng Cymraeg”.

Cymraeg ffurfiol ac anffurfiol

Oherwydd bod pwyslais yn y cwricwlwm ar ddysgu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg llafar ffurfiol ac anffurfiol, mae’n bwysicach fyth fod plant Cymru’n cael mynediad i dafodieithoedd, yn ôl y llythyr.

“I gyflwyno disgyblion i iaith anffurfiol, ymarferol gyda’r bwriad o’u cymell i ddefnyddio’r iaith yn rheolaidd bob dydd, dylid dysgu mwy am y dafodiaith leol a’r rhanbarth lle maen nhw’n byw.

“O ganlyniad, byddai disgyblion yn gallu defnyddio iaith safonol yn ysgrifenedig yn ogystal â’r dafodiaith sy’n gysylltiedig â’u cymuned a’i defnyddio yn eu rhanbarth ac yn y cartref.”

Yn ôl Aled Thomas, mae angen sicrhau bod plant yn hyderus wrth siarad Cymraeg anffurfiol fel eu bod yn defnyddio’r iaith bob dydd ac yn sicrhau dyfodol yr iaith yn eu hardaloedd.

Mae’n awgrymu y dylai athrawon ddysgu’r plant am bwysigrwydd tafodiaith yn eu hardaloedd.

Miliwn o siaradwyr

Yn ogystal, mae Aled Thomas “yn credu’n gryf”, meddai, fod rhoi mwy o sylw i dafodieithoedd yn ffordd arall o sicrhau llwyddiant strategaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ychwanegodd: “Cefais fy ysbrydoli pan glywais recordiad o aelod o’r teulu yn yr archif tafodieithoedd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Mae’r adnoddau hyn yn cynnig cyfle da i selio’r galw am fwy o dafodieithoedd fel rhan o addysgu pobl ifanc i siarad Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.”

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg 

Mewn llythyr yn ymateb i sylwadau Aled Thomas, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huw:, “Ar lefel gyffredinol, mae’n hollbwysig rhoi sylw i’n tafodieithoedd, ac wrth gwrs dylent gael eu diogelu a’u trysori.. mae gan y sector addysg yng Nghymru rôl bwysig i’w chwarae yn y cyd-destun hwn.

“Awgrymaf eich bod chi’n parhau i drafod eich syniadau gyda’r Llywodraeth wrth iddynt arwain y gwaith o lunio’r cwricwlwm newydd.

“Mae’n eithaf posibl y byddai mwy o gynnwys yn y cwricwlwm ar gyfer tafodieithoedd lleol yn helpu yn y cyd-destun hwn, ond dylid gwneud hyn yng nghyd-destun strategaeth ehangach.”

Bydd cyfle i’r cyhoedd ymateb i gopi drafft o’r cwricwlwm newydd fis Ebrill y flwyddyn nesaf a than fod hwnnw’n dod i ben, fydd Llywodraeth Cymru ddim yn “cynnig unrhyw addewidion” am ei gynnwys.